Amdanom ni

Mae StreetGames yn un o elusennau ‘chwaraeon er datblygu’ mwyaf blaenllaw’r DU – yn newid bywydau ac yn trawsnewid cymunedau diolch i rym chwaraeon.

English Cymraeg

Y bobl wrth ochr y bobl

Mae StreetGames yn gweithio gyda sefydliadau cymunedol ledled y DU er 2007 i drawsnewid bywydau pobl ifanc trwy chwaraeon.

Mae gan ein rhwydwaith gyfanswm o dros 1,600 o sefydliadau cymunedol lleol erbyn hyn – o glybiau chwaraeon a grwpiau cymunedol i gymdeithasau tai, ymddiriedolaethau hamdden ac awdurdodau lleol. Mae’r sefydliadau hyn mewn sefyllfa unigryw i gefnogi pobl ifanc yn eu cymunedau, trwy gynnig man diogel gyda hyfforddwyr a threfnwyr y gellir ymddiried ynddyn nhw sy’n adnabod eu cymdogaeth a’r bobl ifanc sy’n byw yno.

Gyda’n blynyddoedd o brofiad, a’n statws fel arweinwyr dibynadwy yn y sector, rydyn ni’n falch o gefnogi pob un o’r sefydliadau yn ein rhwydwaith trwy wybodaeth a mewnwelediad, helpu gyda chynaliadwyedd a buddsoddi, teclynnau ac adnoddau ymarferol, cyfleoedd rhwydweithio a mwy – gan eu grymuso i wneud yr hyn maen nhw’n ei wneud orau: sef creu newid cadarnhaol ym mywydau pobl ifanc trwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Ni yw’r bobl wrth ochr y bobl sy’n newid bywydau a chymunedau.

Ein dull gweithredu

Dysgu mwy am StreetGames

Rydyn ni’n falch o fod wrthi’n cefnogi sefydliadau cymunedol ledled y DU ers mwy na 15 mlynedd.

Ein Partneriaid

Sport England

Yn 2022, cafodd StreetGames fuddsoddiad o £10.5miliwn dros 5 mlynedd gan Sport England. Dyfarnwyd cyllid hirdymor i ni oherwydd ein hymrwymiad i gyd-ddarparu newid ar lefel genedlaethol a lleol, i helpu mwy o bobl i fwynhau manteision cymryd rhan mewn chwaraeon a bod yn gorfforol egnïol. Fel un o bartneriaid Sport England, byddwn ni’n canolbwyntio ar ddarparu cynnig cymorth cofleidiol sy’n cynnal ac yn cynyddu effaith sefydliadau cymunedol yn ein rhwydwaith ac yn cynyddu lefelau cyfranogiad pobl ifanc a’u gallu i gyfrannu at y gwaith o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol ehangach.

Chwaraeon Cymru

Mae StreetGames yn un o’r Partneriaid Cenedlaethol a gydnabyddir ac a ariennir gan Chwaraeon Cymru, sy’n gweithio ar y cyd i gefnogi Strategaeth ‘Galluogi Chwaraeon yng Nghymru i Ffynnu’ Chwaraeon Cymru a ‘Gweledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru’ y sectorau cyfunol. Mae StreetGames yn cefnogi 6 bwriad strategol Chwaraeon Cymru, i sicrhau bod chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn hygyrch i bobl ifanc sy’n byw mewn cymunedau incwm isel nad ydyn nhw’n cael eu gwasanaethu’n ddigonol, drwy Rwydwaith o Sefydliadau yr Ymddiriedir ynddyn nhw’n Lleol sy’n darparu Chwaraeon ar Garreg y Drws.

Subscribe to our newsletter

Stay in touch with our work, unlock your fundraising potential and discover how we change lives!

"*" indicates required fields

Yes, I would like to subscribe to the StreetGames newsletter*